O gwrando, Arglwydd grasol,
Ar lef pechadur gwan,
Mae ef yn edifeiriol
Yn ceision d'od i'r lan;
Er cymmaint yw ei feiau,
O Arglwydd, clyw ei gri,
Er mwyn y dyoddefiadau
Ar groesbren Calfari.
Galaru'r wyf am bechod
A wnes yn d'erbyn Di,
Ac erfyn am gael cymmod
Drwy aberth Calfari:
O Arglwydd, gwrando'm gweddi,
Erglyw fy ngwaedd a'm cri,
Er mwyn yr iawn roed iti
Ar groesbren Calfari.
Dan bwys fy mai
'rwy'n cwynfan,
'Rwy'n griddfan yn ddi-daw;
Euogrwydd buchedd aflan
Sy'n llenwi'm bron â braw:
O Arglwydd maddeu imi;
O clyw fy ngwaedd a'm cri,
Er mwyn yr iawn roed iti
Ar groesbren Calfari.
Er amled yw fy meiau,
Mae digon yn y gwaed
I olchi'n lân fy mriwiau
I gyd o'm pen i'm traed:
O Arglwydd, hon yw'r afon
A ylch f'aflendid i;
O golch fi'n nyfroedd gloewon
Rhinweddol Calfari.
- - - - -
1,2,(3,4).
O gwrando, Arglwydd grasol,
Ar lef pechadur gwan;
Mae ef yn edifeiriol,
Yn ceision dod i lan;
Er cymaint yw ei feiau,
O Arglwydd, clyw ei gri,
Er mwyn y dyoddefiadau
Ar groesbren Calfari.
Nid oes o fewn yr hollfyd
Un meddyg a'm hiachâ,
Dim un all wella 'nghlefyd,
Ond ti, y Meddyg da;
O Iesu, bydd dosturiol,
A gwrando ar fy nghri,
Rho im o ddyfroedd bywiol
Glân ffynnon Calfari.
Er amled yw fy meiau,
Mae digon yn y gwaed
I olchi'n lân fy mriwiau
I gyd o'm pen i'm traed:
O Arglwydd, hon yw'r afon
A ylch f'aflendid i;
O golch fi'n nyfroedd gloewon
Rhinweddol Calfari.
O Arglwydd bydd drugarog
Wrth wael bechadur gwan,
A chuddia'r truan ofnog,
A dyro Grist yn rhan;
Er ingoedd Gethsemane,
OArglwydd, clwy fy nghri,
A chymer f'enaid adre'
At deulu Calfari.
O Wynne Jones (Glasynys) 1828-70
Tôn [7676D]: Llydaw (hen alaw Lydawig) |
O listen, gracious Lord,
To the cry of a weak sinner,
He is repentant
Trying to come up;
Although so many are his faults,
O Lord, hear his cry,
For the sake of the sufferings
On the wooden cross of Calvary.
Mourning I am for sin
I have done against Thee,
And beseeching to get reconciliation
Through the sacrifice of Calvary:
O Lord, listen to me prayer,
Heed my shout and my cry,
For the sake of the ransom paid to thee
On the wooden cross of Calvary.
Under the weight of my fault
I am complaining,
I am groaning endlessly;
The guilt of an unclean manner of life
Is filling my breast with terror:
O Lord forgive me;
O hear my shout and my cry,
For the sake of the ransom paid to thee
On the wooden cross of Calvary.
Although so mamny are my faults,
There is sufficient in the blood
To wash clean all my injuries
From my head to my feet:
O Lord, this is the river
That will wash unclean me;
O wash me in the clear waters
Of virtuous Calvary.
- - - - -
O listen, gracious Lord,
To the cry of a weak sinner,
He is repentant
Trying to come up;
Although so many are his faults,
O Lord, hear his cry,
For the sake of the sufferings
On the wooden cross of Calvary.
There is not within the universe
Any physician who will cure me,
Not one can heal my wound,
But thou, the good Physician;
O Jesus, be merciful,
And listen to my cry,
Give me from the living waters
The pure fount of Calvary.
Although so many are my faults,
There is sufficient in the blood
To wash clean all my injuries
From my head to my feet:
O Lord, this is the river
That will wash unclean me;
O wash me in the clear waters
Of virtuous Calvary.
O Lord, be merciful
To a poor, weak sinner,
A hide the fearful wretch,
And give Christ as a portion;
For the sake of the pangs of Gethsemane,
O Lord, hear my cry,
And take my soul home
To the family of Calvary.
tr. 2016 Richard B Gillion
|
|